Mae Cylch Meithrin Trannon yn gylch cartrefol gydag awyrgylch cyfforddus a hapus i'r plant rydyn ni'n eu croesawu trwy ein drysau. Rydym yn ymfalchรฏo yn rhoi y gofal gorau posibl, a rhoi'r cyfle i bob plentyn ddysgu a datblygu i'w llawn botensial.

Mae Cylch Meithrin Trannon yn darparu gofal ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan roi mwy o gefnogaeth i blant di-Gymraeg. Rydym wedi cofrestru gyda Mudiad Meithrin sy'n rhoi mynediad i ni at gyfoeth o adnoddau, cefnogaeth a hyfforddiant sydd o fudd i blant a staff. Mae'r lleoliad yn cynnig teganau ac adnoddau o'r safon uchaf, sy'n adddas i ofynion, datblygiad ac oedrannau'r plant. Mae plant dros 2 oed yn cael eu cyflwyno i weithgareddau sy'n hyrwyddo'r cwricwlwm newydd i Gymru ac addysg gynnar er mwyn sicrhau'r dechrau gorau i'w haddysg.

Rydym yn rhoi pwyslais ar ein gweithgareddau awyr agored ac yn cynllunio ein mannau chwarae awyr agored yn ofalus i ddarparu profiadau chwarae a dysgu diddiwedd. Bydd pob plentyn cyn oedran ysgol yn cael y cyfle i fanteisio ar fod yn greadigol drwy gyfrwng y Gymraeg, defnyddio eu dychymyg a chael hwyl wrth ddysgu.

Croesewir pob plentyn i'r Cylch beth bynnag fo'u lliw, hil, dosbarth cymdeithasol, sefyllfa deuluol neu anghenion addysgol. Gobeithiwn y bydd eich plentyn yn hapus yma yn y Cylch ac yn elwa o'r ddarpariaeth.

Gweithgareddau:

Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi'u gwreiddio yng ngofynion pedair ardal Canllawiau Senedd Cymru ar gyfer plant cyn oedran ysgol:

  • Llythrennedd

  • Rhifedd

  • Datblygiad Cymdeithasol

  • Ffisegol

Darperir ein holl gyfleoedd dysgu trwy brofiadau hwyliog, rhyngweithiol a phrofiadau bywyd go iawn. Rydym hefyd yn defnyddio llawer o ganeuon, cerddi a straeon i atgyfnerthu ein prif nod addysgu; bod pob plentyn yn gallu cyfathrebu a chyfrannu at waith grลตp.

Mae digonedd o adnoddau penagored ar gael i ganiatรกu i'r plant ddod yn feddylwyr creadigol, beirniadol ac annibynnol yn eu syniadau chwarae eu hunain.

Dyma enghraifft o'r math o weithgareddau a fydd yn digwydd:

  • Chwarae a chymdeithasu gyda phlant eraill

  • Dysgu trwy chwarae tu mewn a'r tu allan

  • Chwarae gyda thywod, dลตr, toes, playhouse, posau jig-so, teganau, gemau bwrdd, beiciau

  • Amser stori, canu a dawnsio

  • Mae pob plentyn yn cael pob cefnogaeth i gyrraedd eu potensial

Oriau Agor:

Cynhelir y sesiynau Addysg Cyn-Ysgol a ddarperir gan Gyngor Sir Powys ar gyfer plant 3-4 oed yng Nghylch Meithrin Trannon ar:

  • Dydd Llun โ€“ 9:00 โ€“ 11:30

  • Dydd Mawrth โ€“ 9:00 โ€“ 11:30

  • Dydd Mercher โ€“ 9:00 โ€“ 11:30

  • Dydd Iau โ€“ 9:00 - 11:30

Mae'r Cylch Meithrin yn darparu oriau gofal dydd i blant 2 โ€“ 4 oed ar:

  • Dydd Llun โ€“ 11:30 โ€“ 5:15

  • Dydd Mawrth โ€“ 11:30 โ€“ 5:15

  • Dydd Mercher โ€“ 11:30 - 5:15

  • Dydd Iau โ€“ 11:30 โ€“ 5:15

  • Dydd Gwener โ€“ 9:00 โ€“ 3:30

Maeโ€™r Cylch ar agor yn stod Tymor yr Ysgol yn unig.

Mae'r ffioedd hyn yn unol รข chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (oโ€™r tymor ar ol iโ€™ch plentyn droiโ€™n 3 oed). 

Mae 30 awr yn cynnwys:

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Lleoliad:

Cylch Meithrin Trannon,

Ysgol Dyffryn Trannon,

Trefeglwys,

Caersws,

SY17 5PH

Ebost: cmtrannon@outlook.com

  • Audrey Morgan

    Cynorthwyydd

  • Helen Pritchard

    Cynorthwyydd

  • Kathryn Hughes

    Cynorthwyydd Banc

  • Kelly Pearson

    Cynorthwydd/Arweinydd Banc

  • Kerry Robinson

    Cynorthwyydd Gweinyddol

    Unigolyn Cyfrifol

  • Mollie Vaughan

    Arweinydd

  • Sian Morgan

    Cynorthwyydd Banc

  • Claire Williams

    Cynorthwyydd Banc

  • Claire Rowlands

    Cynorthwyydd

  • Hollie Powell

    Cynorthwyydd